BEGIN:VCALENDAR
VERSION:2.0
PRODID:icalendar-ruby
CALSCALE:GREGORIAN
BEGIN:VEVENT
DTSTAMP:20260527T233158Z
UID:VxogmA
DTSTART:20240221T170000
DTEND:20240221T183000
CLASS:PUBLIC
CREATED:20240124T164526
DESCRIPTION: Croeso i’n seminarau misol sy’n darparu llwyfan ar gyfer t
 rafodaeth ehangach am gydraddoldeb\, mudo\, cydnerthedd\, hunaniaeth\, diw
 ylliant a threftadaeth. \n\n \n\n Mae ein hail seminar ni ar y thema O Fud
 o i Wydnwch a bydd yn cael ei chynnal ar-lein ar Zoom ar ddydd Mercher 21 
 Chwefror 2024\, 5.00pm tan 6.30pm.  \n\n \n\n Prif siaradwyr: \n\n Ein pri
 f siaradwyr ni yw’r awduron Amrit Wilson a Bharti Dhir. Bydd y ddau yn s
 iarad am eu profiadau personol a phroffesiynol ‘o fudo i wydnwch’. \n\
 n Cyhoeddwyd llyfr arloesol Amrit\, ‘Finding a voice’\, am y tro cynta
 f yn 1978 ac enillodd Wobr Goffa Martin Luther King ar gyfer y flwyddyn ho
 nno. Drwy drafodaethau\, cyfweliadau a sgyrsiau un i un gyda merched o Dde
  Asia a gynhaliwyd mewn Wrdw\, Hindi\, Bengali a Saesneg\, cofnododd Amrit
  fywydau a brwydrau merched o Dde Asia ym Mhrydain gan edrych ar berthnaso
 edd teuluol\, effaith mudo\, polisïau mewnfudo a’r ddarpariaeth o wasan
 aethau statudol yn ogystal â'r gwahaniaethu a wynebir yn y gwaith a arwei
 niodd at ferched yn trefnu rhai o'r brwydrau gwrth-hiliol a dosbarth gweit
 hiol mwyaf eiconig. \n\n Mae’r argraffiad newydd o ‘Finding a voice’
  yn cynnwys ffotograffau hanesyddol\, a phennod newydd o’r enw ‘In con
 versation with Finding a Voice: 40 years on’ lle mae merched iau o Dde A
 sia yn ysgrifennu am eu profiadau eu hunain gan gysylltu â’r rhai sy’
 n cael eu portreadu yn y llyfr gwreiddiol. \n\n Bydd Amrit yn siarad am su
 t mae’r patrymau mudo niferus i’r DU\, sy’n gymhleth yn aml\, boed y
 n uniongyrchol o is-gyfandir India neu drwy fudo blaenorol i Ddwyrain Affr
 ica\, wedi effeithio ar gefndiroedd dosbarth\, cast\, crefydd a chyfoeth c
 ymunedau De Asia. \n\n Cofiant yw llyfr Bharti\, sef ‘Worth’\, fel men
 yw Affricanaidd-Asiaidd a fabwysiadwyd gan deulu Pwnjabi\, Sikhaidd\, a’
 i stori am oresgyn hiliaeth\, rhywiaeth\, problemau iechyd a dianc o Ugand
 a yn 1972 pan aeth Idi Amin ati i alltudio Asiaid. \n\n Bydd Bharti yn sia
 rad am ei phrofiadau personol o oresgyn cael ei hesgeuluso\, gwahaniaethu\
 , ac adfyd i ddod o hyd i gryfder mewnol a hunan-werth i greu ei ffawd.\n 
  \n\n Am y siaradwyr: \n\n Mae Amrit Wilson yn newyddiadurwraig arobryn ac
  yn ymgyrchydd ar faterion hil a rhywedd ym Mhrydain ac ar wleidyddiaeth D
 e Asia. Mae hi’n un o sylfaenwyr y South Asia Solidarity Group ac ‘Awa
 az’ – grŵp o ferched a oedd ar flaen y gad yn y frwydr dros hawliau i
  ferched Asiaidd yn y 1970au a’r 1980au. Cyhoeddwyd llyfr arloesol Amrit
 \, ‘Finding a voice’\, yn 1978 ac roedd yn cofnodi profiadau merched A
 siaidd o gariad\, priodas\, perthnasoedd\, cyfeillgarwch yn ogystal ag o h
 iliaeth ym maes tai\, addysg ac o ran y gyfraith. \n\n Mae Bharti Dhir yn 
 weithiwr cymdeithasol cymwys sy’n gweithio ym maes amddiffyn plant ac yn
  awdur ‘Worth‘\, sef cofiant Bharti fel menyw Affricanaidd-Asiaidd a f
 abwysiadwyd i deulu Pwnjabi\, Sikhaidd\, a’i stori am oresgyn hiliaeth\,
  rhywiaeth\, problemau iechyd a dianc o Uganda yn 1972 pan aeth Idi Amin a
 ti i alltudio Asiaid. Bydd Bharti yn siarad am ei phrofiadau personol o or
 esgyn cael ei gadael\, gwahaniaethu\, ac adfyd i ddod o hyd i gryfder mewn
 ol a hunan-werth i lunio ei ffawd. \n\n \n\n Cysylltwch â ProsiectTAG@cbh
 c.gov.uk os hoffech gael gwybod mwy.\nGobeithio y gwelwn ni chi yno!\nFfô
 n: 01970 621 234 \n\n Bydd y sgwrs hon yn cael ei thraddodi yn Saesneg. \n
 \n Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw. \n\n \n\n By
 dd y ddarlith yma yn cael ei recordio\, ac yn cael ei lanlwytho yn fuan i 
 gyfrif YouTube y Comisiwn Brenhinol. \n\n \n
LAST-MODIFIED:20240219T142325
LOCATION:darperir drwy Zoom
ORGANIZER:mailto:ProsiectTAG@cbhc.gov.uk
SUMMARY:O Fudo I Wydnwch
URL;VALUE=URI:https://ti.to/digital-past/o-fudo-i-wydnwch
URL;VALUE=URI:https://ti.to/digital-past/o-fudo-i-wydnwch
END:VEVENT
END:VCALENDAR
